Academydd o Abertawe yn chwilio am atebion byd-eang i broblemau llygredd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Athro Hilary Lappin-Scott, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yn cymryd rhan mewn cynhadledd fyd-eang sy'n ystyried sut i ddiogelu'r byd rhag afiechydon.

Mae'r Athro Lappin-Scott yn Llywydd y Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol, ac mae hefyd yn aelod o Fwrdd Rhyngwladol y Gymdeithas Microbioleg Americanaidd.  Mae'r ddau sefydliad yn bodoli er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth o'r wyddor a sut mae'n gallu helpu gwella iechyd a lles amgylcheddol ledled y byd.

Yr wythnos hon, mae'r Athro Lappin-Scott yn cymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol y Gymdeithas Americanaidd yn San Francisco. Dywedodd hi: "Rydym yn chwilio am strategaethau byd-eang i fynd i'r afael â llygredd ac i sicrhau bwyd a dwr yfed diogel i boblogaeth gynyddol y byd.

"Rhan o fy rôl innau yw hyrwyddo cysylltiadau cryfach rhwng cymdeithasau microbioleg y DU a'r UDA, a chyda chymdeithasau tebyg ledled y byd, fel y gallwn ni i gyd gydweithio.

"Nid oes pwrpas i academyddion ac ymchwilwyr weithio mewn seilos. Mae angen i ni fynd i'r afael â phroblemau megis atal afiechydon a llygredd gyda'n gilydd. Mae microbioleg yn hanfodol bwysig i'n dealltwriaeth o'r byd. Er enghraifft, gwnaed rhai o'r darganfyddiadau pwysicaf ym maes gwyddor iechyd gan ficrobiolegwyr megis Alexander Fleming a Louis Pasteur.

"Mae poblogaeth y byd yn tyfu'n gyflym, ac mae angen atebion byd-eang er mwyn ymateb i'r heriau o sicrhau bod digon o fwyd i bawb, ac atal afiechydon rhag lledaenu."

Gellir cael mwy o wybodaeth am y Gymdeithas Microbioleg Gyffredinol ar: http://www.sgm.ac.uk/