Myfyrwraig o Sambia yn dathlu llwyddiant Meistr
Mae myfyrwraig ardderchog o Sambia yn dathlu derbyn ei gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) heddiw (Dydd Iau 26 Ionawr) o Brifysgol Abertawe.
Mae Linda Hamweemba, sy’n ddeugain mlwydd oed, wedi graddio gydag MBA gyda Rhagoriaeth o’r Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith yng Nghynulliad Graddio a Gwobrwyo’r Gaeaf a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn Abertawe.
Roedd Linda yn gweithio fel uwch-reolwr yn Sambia pan benderfynodd ddod i Abertawe. Cyrhaeddodd yn 2008 i wneud BSc mewn Cyllid Rheoli Busnes, gan adael ei gwr a’i theulu gartref yn Sambia. Ers hynny, bu’n rhaid iddi ymdopi â bod i ffwrdd ohonynt am gyfnodau hir – ei hymweliad cyntaf yn ôl â’i chartref oedd ar ddiwedd Rhan I ei MBA – bedair blynedd ar ôl gadael!
Mae Linda bellach wedi penderfynu aros ymlaen yn Abertawe i wneud PhD ar fenywod Sambiaidd mewn rheoli rhyngwladol.
Meddai tiwtor yr MBA, yr Athro Antonis Simintiras, “Bu Linda yn un o’n myfyrwyr mwyaf positif, poblogaidd, cyfeillgar a gweithgar. Bu’n fyfyrwraig ardderchog ac enillodd ragoriaeth yn ei MBA yr oedd hi wedi gweithio’n anodd i’w chael ac yn ei haeddu’n llwyr.
“Bu Linda yn gynrychiolydd myfyrwyr ar gyfer carfan 10/11 yr MBA, ac mewn sawl ffordd bu’n arweinydd ar ei rhaglen – rhywun yr oedd y myfyrwyr eraill yn gallu troi ati i’w trefnu a’u cynrychioli.”
Meddai Linda, “Rwyf yn hynod falch o fod yma heddiw i dderbyn fy MBA, ac rydw i’n methu aros dechrau ar fy astudiaethau PhD. Rydw i’n edrych ymlaen yn arbennig at fynd yn ôl i Sambia i wneud bach o’m hymchwil yn fy ngwlad enedigol.”

