Swansea University - News Archive


News & Events Archive for 2011

Items are listed in chronological order by publication date.



    Myfyriwr yn Ennill Gradd Meistr

    I fyfyriwr a dderbyniodd radd Meistr mewn Peirianneg Gemegol heddiw (dydd Iau 26 Ionawr) yng Nghynulliad Graddio a Gwobrwyo’r Gaeaf Prifysgol Abertawe, roedd y llwybr at lwyddiant yn bell o fod yn esmwyth.


    Graham Nelson Dechreuodd stori Graham Nelson, sy’n 23 oed, gyda siom pan na chafodd y dosbarth gradd yr oedd yn gobeithio ei gael pan raddiodd gyntaf gyda BEng mewn Peirianneg Biobrosesu o Brifysgol Abertawe yn 2009.

    Ar ôl cymryd saib i deithio a dysgu ynCanada, penderfynodd Graham ddychwelyd i’w astudiaethau gan ganolbwyntio ar ei uchelgais o ddilyn gradd Meistr.

    Mae ansawdd gwaith Graham a’i ymrwymiad i waith ymchwil ar ei thesis wedi dwyn ffrwyth a derbyniodd MSc gyda Rhagoriaeth gan y Coleg Gwyddoniaeth.  

    Nid yw ymdrechion Graham wedi cael eu hanwybyddu ac mae bellach yn gweithio ar brosiect ACCOMPLISH yr Adran Biowyddoniaeth, sy’n brosiect â’r nod o leihau ôl troed carbon allyrrydd carbon deuocsid mwyaf Cymru gyda thechnoleg ecogyfeillgar.   

    Meddai Graham: “Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio gyda’r tîm ACCOMPLISH ar ddylunio a defnyddio cyfleuster cynhyrchu biomas a dal carbon algaidd ar raddfa beilot gyda’r nod o gynhyrchu ynni cynaliadwy. Caiff carbon deuocsid ei fwydo drwy fio-adweithyddion ffotosynthetig algaidd lle caiff ei droi’n ocsigen drwy ffotosynthesis.”

    Meddai Dr Alla Silkina, o brosiect ACCOMPLISH: “Er gwaethaf ei siomedigaethau cynnar, mae gwaith caled a phenderfyniad Graham wedi arwain at lwyddiant yn ei radd Meistr y mae’n ei haeddu’n llwyr. Rwy’n mawr obeithio y bydd ei ymchwil bresennol gyda’r tîm ACCOMPLISH, ar ddefnyddio algâu i ddal a throsi carbon mewn modd ecogyfeillgar, yn cael ei chymhwyso i allyrwyr carbon deuocsid ar draws Cymru yn y dyfodol.”

News

What's Happening

Research